
Rydym i gyd yn disgyblion blwyddyn 10-13 o Ysgol Penweddig, Aberystwyth. Rydym yn ymroddedig i'n gwaith sydd yn yr her hon ac yn gwybod pa mor anodd y gall fod yn tyfu i fyny gyda straen o gwaith ysgol wedi'i bentyrru arnom. Hefyd, rydyn ni i gyd yn siarad Cymraeg ac wedi sylwi bod yna ddim lawer o adnoddau a gweithgareddau Cymraeg o hyd i blant ifanc. Gan ein bod yn angerddol am ein hiaith, rydym wedi penderfynu creu ein dyddlyfr mewn dwy iaith i sicrhau bod pawb o'n gwlad yn teimlo eu bod mor gynwysedig â phosibl.